Chief Financial Officer

Job Description

 

Prifysgol Metropolitan Caerdydd 
Prif Swyddog Ariannol
Tâl cydnabyddiaeth cystadleuol 

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn sefydliad blaengar ac uchelgeisiol, yn brifysgol fodern flaenllaw gyda phroffil dysgu, addysgu, ymchwil ac arloesi unigryw ar draws ystod eang o ddisgyblaethau creadigol, chwaraeon, iechyd, addysg, technoleg, gwyddorau cymdeithasol a bywyd, a busnes. Yn dilyn penodiad Llywydd ac Is-Ganghellor newydd, yr Athro Rachael Langford, ym mis Ionawr 2024, mae'r Brifysgol wedi adnewyddu ffocws a blaenoriaethau ei gweledigaeth a chenhadaeth ei Strategaeth 2030. 

Daw ysbrydoliaeth Prifysgol Metropolitan Caerdydd o dros 150 mlynedd o ymrwymiad i addysg fel grym er daioni ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd a thu hwnt. Gyda dros 12,000 o fyfyrwyr ar draws dau gampws bywiog yng Nghaerdydd a 18,000 yn fwy o ddysgwyr yn astudio trwy 12 partner rhyngwladol, mae ein cymuned o 30,000 o bobl yn wirioneddol fyd-eang ac wedi ei huno gan ein hymrwymiad cyffredin i ddatblygu diwylliant o urddas a pharch at bawb wrth weithio ac astudio. Rydym yn falch o fod yn Brifysgol Noddfa gyntaf Cymru, daliwr Gwobr Sefydliadol Arian Athena Swan, a'r brifysgol orau yng Nghymru yng Nghynghrair People and Planet 23/24.

Mae Ysgol Gelf a Dylunio’r Brifysgol yn un o'r Ysgolion Celf hynaf yn y DU a'r ysgol gelf a dylunio fwyaf yng Nghymru, ac ymysg y 3 gorau yn REF2021 am effaith ymchwil ei staff. Mae ein Hysgol Dechnolegau yn ymfalchïo mewn addysgu ac ymchwil arloesol i roboteg ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol; biodechnoleg; blockchain; seiberddiogelwch a chyfrifiadura creadigol; Ysgol Reoli’r Brifysgol yw'r ysgol fusnes gyntaf yng Nghymru a dim ond y drydedd yn y DU i dderbyn gwobr Business School Impact System (BSIS) gan y Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Rheolaeth am yr effaith economaidd gadarnhaol y mae'r Ysgol yn ei chael ar Brifddinas-Ranbarth Caerdydd drwy ei gweithgareddau addysgu, hyfforddiant ac ymchwil.

Ymhellach, y Brifysgol yw'r darparwr mwyaf o addysg chwaraeon israddedig amser llawn yn y DU, gyda chanlyniadau graddedigion sy'n seiliedig ar fodel addysg unigryw sy'n ymgorffori myfyrwyr i mewn i’r Brifysgol a’r seilwaith chwaraeon cymunedol. Mae safon ein chwaraeon wedi'i adeiladu ar ragoriaeth ymchwil; cafodd Met Caerdydd ei rhestru ymhlith y 10 prifysgol orau yn y DU am rym ymchwil mewn Chwaraeon yn REF 2021. Mae Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol y Brifysgol yn gartref i'r ganolfan addysg a hyfforddiant athrawon fwyaf yng Nghymru ac mae'n ganolfan rhagoriaeth ymchwil ar gyfer pob agwedd ar theori ac ymarfer addysg sydd â phortffolio cynyddol o raglenni gradd gwyddorau cymdeithasol, o droseddeg a phlismona, i gymdeithaseg a pholisi cymdeithasol, gwleidyddiaeth, Saesneg, ysgrifennu creadigol a'r cyfryngau.


Rydym yn chwilio am Brif Swyddog Ariannol arbenigol i ddarparu arweinyddiaeth a stiwardiaeth ariannol strategol wrth i'r Brifysgol ddechrau ar raglen eang o wella a thrawsnewid ei busnes. Fel Prif Swyddog Ariannol, chi fydd prif gynghorydd ariannol y Llywydd a'r Is-Ganghellor, Grŵp Gweithredol y Brifysgol, y Bwrdd Academaidd, a Bwrdd y Llywodraethwyr, fydd yn gyrru mentrau sy'n gosod y Brifysgol ar sylfaen ariannol gadarn ar gyfer y dyfodol a chynyddu ein gallu ariannol a'n gwydnwch wrth gyflawni strategaeth, gweledigaeth a chenadaethau’r Brifysgol. Byddwch yn arwain rheolaeth strategol ein gwasanaethau ariannol, gan sicrhau bod rhagoriaeth wrth gyflenwi gwasanaethau yn sail i'n llwyddiant sefydliadol. Byddwch yn hyrwyddo arloesedd ac arfer gorau, gan gynnwys wrth ailgynllunio gwasanaethau, polisïau, prosesau a gweithdrefnau, ac yn cynhyrchu mewnwelediadau ariannol cywir a hygyrch i lywio penderfyniadau a dyrannu adnoddau. 

Bydd y Prif Swyddog Ariannol yn dod ag ymagwedd fodern, fasnachol at arweinyddiaeth swyddogaethau cyllid y Brifysgol, gan gydlynu gweithgareddau i ddarparu gwasanaeth hynod effeithiol sy'n seiliedig ar werth gan yr Adran Gyllid. Yn strategydd busnes rhagorol, byddwch yn chwarae rhan ganolog wrth ddatblygu ein gwaith cynllunio ariannol, yn ogystal â sicrhau'r safonau uchaf o reolaeth ariannol, goruchwylio risg, atebolrwydd ac adrodd, i gorff llywodraethu'r Brifysgol a'i his-bwyllgorau, ac i reoleiddiwr y sector Addysg Uwch yng Nghymru, Medr. Y tu hwnt i gyllid, bydd eich rôl yn cwmpasu ymgysylltiad sylweddol â llywodraethau lleol, Cymru a'r DU, yn ogystal â rhanddeiliaid allweddol eraill, gan roi’r Brifysgol mewn gwell i gynyddu ei hincwm ac i lwyddo yn y dyfodol.

Bydd ymgeiswyr yn arweinwyr dadansoddol, tactegol, gwydn, hunan-fyfyriol, cadarnhaol, sy'n canolbwyntio ar atebion ac sy’n gallu ennyn parch gan gydweithwyr ar bob lefel ar draws y Brifysgol. Bydd gennych lwyddiant blaenorol o gefnogi trawsnewid sefydliadol strategol llwyddiannus ac uwch arweinyddiaeth ariannol mewn sefydliadau cymhleth, gan arddangos gwelliannau diriaethol mewn cynaliadwyedd ariannol, cynhyrchu incwm, ac effeithiolrwydd sefydliadol. Bydd gennych feddylfryd strategol, rhagweithiol, craff yn wleidyddol gyda'r gallu i feithrin perthnasoedd effeithiol ag asiantaethau'r llywodraeth, benthycwyr, cyllidwyr, a chyrff allanol. Byddwch yn gyfathrebwr rhagorol ac yn gydweithredwr rhagweithiol.

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno ag un o brifysgolion modern mwyaf unigryw a blaengar y DU, ac mae hyn yn fwy na rôl gyllidol yn unig: mae'n gyfle i ysgogi gwelliannau a newid busnes trawsnewidiol, hyrwyddo atebion ariannol arloesol, a gwneud cyfraniad dwys i ddyfodol addysg uwch yng Nghymru.  Cewch y cyfle i fod wrth wraidd siapio newid drwy arwain y trawsnewid fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n myfyrwyr a'n cymunedau, a hynny wrth weithio yn un o ddinasoedd mwyaf bywiog a chosmopolitan Ewrop, prifddinas Caerdydd yng Nghaerdydd. 

I  ddarganfod mwy am y cyfle hwn, ewch i https://andersonquigley.com/prifysgol-metropolitan-caerdydd-apwyntiadau-arweinyddiaeth/    
I gael trafodaeth gyfrinachol, cysylltwch â'n hymgynghorwyr yn Anderson Quigley: Carolyn Coates yn carolyn.coates@andersonquigley.com, +44 (0)7825 871 944 neu Elliott Rae yn elliott.rae@andersonquigley.com, +44 (0) 7584 078 534. 
  
Dyddiad cau: hanner dydd ar ddydd Gwener 17 Ionawr 2025. 

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd gwaith cynhwysol. Mae ein Cynllun Strategol yn sail i'n hymrwymiad i recriwtio a chadw'r bobl fwyaf dawnus ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o gefndiroedd amrywiol.  Rydym yn penodi ar sail teilyngdod.

Cardiff Metropolitan University 
Chief Financial Officer
Competitive remuneration 

Cardiff Metropolitan University is an ambitious and progressive institution, a leading modern university with a distinctive profile for teaching, learning, research and innovation across a wide range of creative, sports, health, education, technology, social and life sciences, and business disciplines. Following the appointment of a new President and Vice-chancellor, Professor Rachael Langford, in January 2024, the University has refreshed the focus and priorities of its Strategy 2030 vision and missions. 

Cardiff Metropolitan University draws its inspiration from over 150 years of commitment to education as a force for good in the Cardiff Capital Region and beyond. With over 12,000 students across two vibrant Cardiff campuses and 18,000 more learners studying through 12 international partners, our 30,000 strong community is truly global and united by our shared commitment to dignity and respect for all at work and study. We are proud to be Wales’ first University of Sanctuary, the holder of a Silver Athena Swan Institutional Award, and the top university in Wales in the People and Planet League 23/24.

The University’s School of Art and Design is one of the oldest established Art Schools in the UK and the largest school of Art and Design in Wales, with a top 3 ranking in REF2021 for the impact of staff research. Our School of Technologies boasts innovative teaching and research into robotics for health and social care; biotechnology; blockchain; cybersecurity and creative computing; while the University’s School of Management is the first business school in Wales and only the third in the UK to receive the Business School Impact System (BSIS) award from the European Foundation for Management Development for the positive economic impact the School has on the Cardiff Capital Region through its teaching, training and research activity.

Further, the University is the largest provider of full-time undergraduate sport education in the UK, with graduate outcomes that are built on a unique model of education that embeds students into the University and community sport infrastructure. Our sport pedigree is built on research excellence; Cardiff Met was ranked as a top 10 UK University for research power in Sport in REF 2021. The University’ School of Education and Social Policy is home to the largest teacher education and training centre in Wales and is a centre of research excellence for all aspects of education theory and practice, while also boasting a growing portfolio of social sciences degree programmes from criminology and policing, to sociology and social policy, politics, English, creative writing and media.


We are now seeking an expert Chief Financial Officer (CFO) to provide strategic financial leadership and stewardship as the University embarks on a wide-ranging programme of business improvement and transformation. As CFO, you will be the primary financial advisor to the President and Vice-Chancellor, the University’s Executive Group, Academic Board, and Board of Governors, driving initiatives that place the University on the firmest financial footing for the future and increase our financial capacity and resilience while facilitating delivery of the University’s strategy, vision and missions. You will lead the strategic management of our financial services, ensuring excellence in service delivery to underpin our institutional success. You will champion innovation and best practice, including in service redesign, policies, processes and procedures, and produce accurate, accessible financial insights to guide decision-making and resource allocation. 

The CFO will bring a modern, commercial approach to the leadership of the University’s finance functions, coordinating activities to deliver a highly effective and value driven service from the Finance Department. An outstanding business strategist, you will play a pivotal role in advancing our financial planning, as well as ensuring the highest standards of financial management, risk oversight, accountability and reporting, to the University’s governing body and its subcommittees, and to the Welsh Higher Education sector regulator, Medr. Beyond finance, your role will encompass significant engagement with local, Welsh, and UK governments, as well as other key stakeholders, positioning the University for future income growth and success.

Candidates will be analytical, tactical, resilient, self-reflective, positive, solutions-focused leaders capable of commanding respect from colleagues at all levels across the University. You will bring a track record of supporting successful strategic organisational transformation and senior financial leadership in complex organisations, showcasing tangible improvements in financial sustainability, income generation, and organisational effectiveness. You will have a strategic, proactive, politically astute mindset with the ability to cultivate impactful relationships with government agencies, lenders, funders, and external bodies. You will be an outstanding communicator and a collegiate, proactive collaborator.

This is an exciting time to join one of the UK’s most distinctive and progressive modern universities, and this opening is more than just a finance role: it’s an opportunity to drive transformational business improvement and change, champion innovative financial solutions, and make a profound contribution to the future of higher education in Wales.  You will have the chance to be at the heart of shaping change by leading the transformation that makes a real difference to our students and our communities, all while working in one of Europe’s fastest-growing, most vibrant and cosmopolitan cities, Wales’ capital city of Cardiff. 

To find out more about this opportunity, please visit https://andersonquigley.com/cardiff-met-leadership 

For a confidential discussion, please contact our advising consultants at Anderson Quigley: Carolyn Coates at carolyn.coates@andersonquigley.com, +44 (0)7825 871 944 or Elliott Rae at elliott.rae@andersonquigley.com, +44 (0)7584 078 534.

Closing date: noon on Friday 17th January 2025.

We are committed to supporting and promoting equality and diversity and to creating an inclusive working environment. Our Strategic Plan underpins our commitment to recruit and retain the best talent and we welcome applications from people from diverse backgrounds.  We appoint on merit

*Please mention you saw this ad on HigherEdPost.*

Apply Now

®